Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Mercher, 4 Mawrth 2020

Amser: 09.26 - 11.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5966


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

John Griffiths AC (Cadeirydd)

Dawn Bowden AC

Huw Irranca-Davies AC

Mark Isherwood AC

Delyth Jewell AC

Caroline Jones AC

David Melding AC

Tystion:

Dr Craig M. Gurney, Prifysgol Glasgow

Dr Tom Simcock, Prifysgol Edge Hill

Staff y Pwyllgor:

Naomi Stocks (Clerc)

Catherine Hunt (Ail Glerc)

Chloe Davies (Dirprwy Glerc)

Yan Thomas (Dirprwy Glerc)

Jonathan Baxter (Ymchwilydd)

Osian Bowyer (Ymchwilydd)

Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol)

Rhiannon Lewis (Cynghorydd Cyfreithiol)

Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1.      Croesawodd y Pwyllgor yr Aelodau a’r cyhoedd.

1.2.      Dirprwyodd David Melding AC ar ran Mark Isherwood AC ar gyfer eitemau 2 i 5, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

1.3.      Cyhoeddodd Caroline Jones AC a Huw Irranca-Davies AC fuddiannau perthnasol yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A.

2       Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): sesiwn dystiolaeth 2

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Dr Craig M. Gurney CIHM, Darlithydd ym maes Tai, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol (Astudiaethau Trefol), Prifysgol Glasgow

·         Dr Thomas Simcock CMRS, Cymrawd Ymchwil, Uned Gwerthuso a Dadansoddi Polisi, Prifysgol Edge Hill

3       Papurau i’w nodi

3.1   Gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

3.1a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

3.2   Ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar y Gyllideb Ddrafft 2020

3.2a Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r adroddiad ar Gyllideb Ddrafft 2020.

3.3   Gwybodaeth ychwanegol gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip mewn cysylltiad â’r ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

3.3.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip mewn perthynas â’r ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

4.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

5       Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

5.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.

6       Ystyried llythyr gan y Llywydd ynghylch deddfwriaeth yn y dyfodol

6.1. Trafododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd mewn perthynas ag deddfwriaeth yn y dyfodol a chytunwyd i ymateb iddo.

7       Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - trafod yr adroddiad drafft

7.1. Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.